SL(6)338 – Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol, Atodol a Deilliadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2023

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol, Ategol a Deilliadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2023 (“y Rheoliadau”) wedi eu gwneud o dan adran 28 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”).

Sefydlodd Deddf 2020 Gorff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“y Corff”). Amcan cyffredinol y Corff, wrth arfer ei swyddogaethau, yw cynrychioli buddiannau’r cyhoedd mewn cysylltiad ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae Deddf 2020 hefyd yn darparu ar gyfer dileu'r Cynghorau Iechyd Cymuned.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol, atodol a deilliadol i is-ddeddfwriaeth ac yn darparu ar gyfer dirymu is-ddeddfwriaeth er mwyn adlewyrchu bod y Corff wedi ei sefydlu a bod ei swyddogaethau o sylwedd wedi eu cychwyn, a bod y Cynghorau Iechyd Cymuned wedi eu dileu fel y darperir ar eu cyfer yn Neddf 2020.

Daw'r rhan fwyaf o'r darpariaethau yn y Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023, er mwyn cyd-fynd â'r dyddiad pan ddaw Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru yn gwbl weithredol, a phan gaiff y Cynghorau Iechyd Cymunedeu dileu. Bydd gweddill y darpariaethau yn y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2023, sef y dyddiad pan fydd rhaid i gyrff perthnasol roi sylw i'r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 19 o Ddeddf 2020. Mae'r cod ymarfer ar fynediad yn ymwneud ag (a) ceisiadau a gyflwynir gan Gorff Llais y Dinesydd am fynediad i fangre at ddiben ceisio barn unigolion mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol, a (b) pan fo cytundeb wedi ei wneud i roi mynediad i’r fangre honno, ymgysylltu ag unigolion yn y fangre honno at y diben hwnnw.

Y weithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn yr esboniad a ganlyn o dan bennawd 5 o’r Memorandwm Esboniadol ynghylch pam na chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad ffurfiol ar y Rheoliadau:

“Ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad ar y Rheoliadau hyn yn benodol, sy'n gwneud darpariaethau technegol yn bennaf er mwyn sicrhau bod modd bodloni amcanion Deddf 2020 yn gywir a sicrhau ymhellach fod Deddf 2020 yn cyd-fynd â deddfwriaeth bresennol. Mae ymgynghoriad eisoes wedi cael ei gynnal ar y polisïau sydd wrth wraidd Deddf 2020, yn ogystal ag ar y cod ymarfer arfaethedig ar fynediad i fangreoedd (sy'n cyfeirio'n benodol at ddarparwyr gofal sylfaenol yn bod yn ddarostyngedig iddo) ac felly ni ystyriwyd ei bod yn angenrheidiol nac yn gymesur gynnal ymgyngoriadau pellach.”

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn yr esboniad a ganlyn o dan bennawd 6 o’r Memorandwm Esboniadol ynghylch pam na luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn cysylltiad â’r Rheoliadau:

“Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn, am eu bod yn gwneud diwygiadau canlyniadol a thechnegol i ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli, ac nad ydynt yn gosod nac yn lleihau costau i fusnesau, elusennau na chyrff gwirfoddol na'r sector cyhoeddus. Mae hyn yn unol â'r polisi a nodir yng Nghod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gyfer cynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

21 Mawrth 2023